Os byddwch yn cael unrhyw broblemau heb eglurhad
wrth ddefnyddio'r ap, gallai dilyn y camau hyn eich helpu i'w datrys. Os bydd
angen cymorth pellach arnoch, cysylltwch â'r Ddesg
Gymorth Cyfrifiadura.
1. Adnewyddu'r dudalen. Gwnewch hyn drwy bwyso ar y sgrin â'ch bys a thynnu'r sgrin i lawr.
2. Cau ac ailagor yr ap eto. Gall hyn amrywio fesul
dyfais, ond dylech allu gwneud hyn yn un o'r ffyrdd canlynol:
sgrolio drwy'r porwyr / apiau sydd ar agor gennych ar eich dyfais a chau yr ap
mynd i osodiadau eich dyfais, dod o hyd i'r ap
a'i orfodi i gau.
3. Allgofnodi a mewngofnodi eto. Gwnewch hyn drwy fynd i ddewislen gosodiadau'r ap a dewis ‘Log out’. Yna bydd angen i chi ddewis eich cyfrif a mewngofnodi eto.
4. Diweddaru'r ap os oes fersiwn newydd ar gael. Gallwch wneud hyn drwy fynd i siop apiau Apple neu Google Play.
5. Dileu deunyddiau modiwl rydych wedi'u lawrlwytho. Gwnewch hyn drwy fynd i ‘Manage downloads’ (sydd yn y ddewislen tri dot ar frig eich cynllun astudio) a defnyddio'r eicon dileu er mwyn cael gwared ar y deunyddiau a lawrlwythwyd ar gyfer
eich modiwl. Gellir gweld yr holl ddeunyddiau ar-lein ar unrhyw adeg a gellir eu lawrlwytho eto os oes angen.
6. Dileu holl ddata'r ap. Gall hyn amrywio fesul dyfais, ond dylech allu gwneud hyn drwy ddefnyddio un o'r opsiynau canlynol:
Yn yr ap, ewch i ‘App settings’ yn y ddewislen
‘Settings’ a dewiswch ‘Space usage’. Dilëwch bopeth a restrir ar y dudalen
honno drwy dapio ar yr eicon dileu sydd wrth ymyl yr eitemau (Apple ac
Android).
Ewch i ardal gosodiadau eich dyfais, dewch o hyd i'r ap OU Study a dilëwch y storfa a'r data (Android yn unig)
7. Edrych ar y rhestr o fygiau hysbys i weld a yw eich problem wedi cael ei nodi eisoes ac a yw wrthi'n cael ei thrwsio.
9. Dileu ac ailosod yr ap o'ch siop apiau. Dyma'r dewis olaf, ond os na allwch ddefnyddio'r ap gallai fod yn syniad da rhoi cynnig arno. Byddwch yn colli unrhyw ddata a lawrlwythwyd (gellir lawrlwytho hyn eto os oes angen), ond bydd yr
holl weithgarwch blaenorol sydd wedi'i gydamseru (megis olrhain gweithgareddau a gweithgareddau rhyngweithiol) i'w weld ar wefan eich modiwl o hyd. Dilëwch yr ap yn yr un ffordd ag y byddech yn dileu apiau eraill ar eich dyfais.