Bygiau a phroblemau hysbys

  • Bygiau a phroblemau hysbys

    • Bygiau a phroblemau hysbys

      Er bod yr ap wedi cael ei ddatblygu a'i brofi'n drwyadl, fel gyda phob math o dechnoleg, mae rhai bygiau a phroblemau y bydd angen ymchwilio iddynt a'u trwsio. Rydym wedi rhannu'r bygiau a'r problemau rydym yn gwybod amdanynt isod, fel eich bod yn ymwybodol ohonynt ac yn gallu eu goresgyn lle y bo'n bosibl. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw beth y mae angen rhoi gwybod amdano yn eich barn chi, rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio'r swyddogaeth ‘Feedback’ yn yr ap, neu drwy gysylltu â'r Ddesg Gymorth Cyfrifiadura. Diolch!

      Problemau posibl

      Modiwl ddim ar gael yn yr ap: Gallai hyn fod am sawl rheswm:

      • Edrychwch ar y modiwlau sydd ar gael yn yr ap ar brif dudalen y canllaw cymorth. Os nad yw eich modiwl yno, mae gennych yr opsiynau canlynol. Datrysiad: Lawrlwythwch OU Study a defnyddiwch yr adran ‘Study links’ ar hafan yr ap; bydd hynny yn rhoi mynediad â nod tudalen i wefan eich modiwl, a gwefannau a gwasanaethau eraill Y Brifysgol Agored. Parhewch i ddefnyddio gwefan eich modiwl ar gyfrifiadur bwrdd gwaith/gliniadur, neu unrhyw ddyfais symudol â chysylltiad â'r rhyngrwyd. Efallai y byddwch hefyd yn gallu defnyddio ein ap presennol, OU Anywhere.

      • Efallai nad ydych wedi cofrestru ar eich modiwl eto: Cadarnhewch a allwch gael mynediad i wefan eich modiwl gan ddefnyddio porwr gwe. Os na, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Cyfrifiadura.

      • Efallai nad yw gwefan eich modiwl wedi agor eto: Mae gwefannau y rhan fwyaf o fodiwlau yn agor tua tair wythnos cyn eu dyddiad dechrau.

      Cynnwys gwefan y modiwl ddim yn yr ap: Bydd y rhan fwyaf o gynnwys dysgu eich modiwl ar gael yn yr ap neu bydd cyfeiriadau ato yn yr ap. Lle nad yw'n bosibl cwblhau gweithgaredd yn yr ap, byddwch yn gweld label gwybodaeth yn gofyn i chi fynd i wefan eich modiwl mewn porwr. Yr unig eithriad i hyn rydym yn gwybod amdano yw blociau y gellir eu gweld ar ochr dde eich cynllun astudio ar y wefan. Nid yw'r rhain yn ymddangos yn yr ap mewn unrhyw ffurf ar hyn o bryd. Datrysiad: Defnyddiwch wefan y modiwl mewn porwr gwe.

      Araf yn llwytho ar yr ymweliad cyntaf: Gan fod rhai o'n modiwlau yn eithaf mawr, gall yr ap gymryd ychydig o amser i lwytho y tro cyntaf y byddwch yn ei ddefnyddio. Os bydd yr amser yn rhedeg allan, byddwch yn cael neges gwall yn gofyn i chi ail-lwytho'r dudalen. Datrysiad – dylai'r ap lwytho yn gyflymach ar ymweliadau pellach.

      Amseroedd llwytho hir ar gyfer tudalen y modiwl / cynllun astudio / deunyddiau dysgu: Gall peth cynnwys gymryd rhai eiliadau i lwytho, yn enwedig o gymharu ag apiau eraill y gallech eu defnyddio. Mae gennym lawer o gynnwys yn ein cyrsiau nad ydynt mor ysgafn o ran cynnwys ag erthyglau newyddion a negeseuon cyfryngau cymdeithasol, felly yn aml bydd angen rhai eiliadau ychwanegol er mwyn i'r ap brosesu pethau. Datrysiad – byddwch yn amyneddgar gyda'r ap i ddechrau, bydd yn cyflymu ychydig ar ôl rhai ymweliadau, yn enwedig os bydd y cynnwys wedi cael ei lawrlwytho. Gallwch hefyd ddefnyddio gwefan y modiwl o hyd gan ddefnyddio porwr gwe eich dyfais symudol, os oes gennych gysylltiad â'r rhyngrwyd.

      Newidiadau heb gydamseru: Pan fyddwch yn defnyddio blychau ticio, neu'n cadw gweithgareddau yn yr ap, weithiau gall gymryd ychydig funudau i ddiweddaru ar wefan y modiwl. Mae angen cysylltiad â'r rhyngrwyd er mwyn cydamseru hefyd, felly os byddwch yn gweithio all-lein, bydd angen i chi aros nes bod yr ap wedi'i gysylltu â'r rhyngrwyd eto cyn y gall gydamseru â gwefan y modiwl.

      Gall yr ap fod yn arafach ar ddyfeisiau Apple o gymharu â dyfeisiau Android: Mewn profion, nodwyd bod yr ap yn aml yn perfformio'n llawer cyflymach ar ddyfeisiau Android o gymharu â dyfeisiau Apple. Ar hyn o bryd nid yw'n glir pam mae hyn yn digwydd na beth y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r mater. Datrysiad – er nad yw'n ddelfrydol, gallech geisio lawrlwytho'r holl ddeunyddiau y mae angen i chi eu defnyddio ar Wi-Fi ac yna newid i gysylltiad data rhwydwaith os yw'n bosibl. Gall sicrhau bod mwy o le i storio ar gael ar eich dyfais helpu'r perfformiad hefyd.

      Ap yn defnyddio llawer o fatri: Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o ddyfeisiau yn defnyddio'r swm o fatri a ddisgwylir gan ap â llawer o gynnwys (tua 15-20% ar ôl ychydig oriau o'i ddefnyddio'n drwm). Fodd bynnag, mae rhai dyfeisiau sy'n defnyddio llawer mwy na hyn. Mae'n ymddangos bod modelau iPhone Apple hŷn (gan gynnwys modelau 5 a 6) a rhai modelau Samsung hŷn yn defnyddio tua 60-70% o fewn yr un amser. Nid ydym yn siŵr a yw hyn yn unol â defnydd cyffredinol, neu a yw'r ap yn rhoi mwy o straen ar y ddyfais. Rydym yn parhau i gasglu tystiolaeth am y mater hwn, felly rhowch wybod i ni os yw'r ap yn defnyddio swm anghyffredin o uchel o fatri ar eich dyfais.

      Dim ysgogiad i gadw data cyn gadael y dudalen: Pan fydd defnyddwyr yn mewnbynnu testun mewn blychau penagored, bydd angen iddynt gadw'r cynnwys cyn gadael y dudalen. Ar wefan y modiwl, ar hyn o bryd maent yn cael neges ysgogi cyn iddynt adael y dudalen i'w rhybuddio y byddant yn colli unrhyw ddata heb eu cadw. Nid yw hyn ar gael yn yr ap ar hyn o bryd, ond bydd yn cael ei ychwanegu ym mis Rhagfyr. Datrysiad: Cofiwch gadw eich gwaith cyn gadael y dudalen, gan ddefnyddio'r botwm ‘save’ o dan y blychau penagored.

      Bygiau hysbys yr ymchwilir iddynt

      Mae'r golwg pob wythnos yn cymryd amser i lwytho, yn enwedig ar ddyfeisiau Apple/iOS: Gall edrych ar y cynllun astudio yn y golwg ‘All weeks’ deimlo ychydig yn araf ac yn ddiymateb weithiau, am ei fod yn adnewyddu llawer o wybodaeth ar yr un pryd. Rydym yn ymchwilio i ffordd o wella hyn. Datrysiad: Defnyddiwch y cynllun astudio yn y golwg wythnos unigol.

      Methu symud oddi wrth y deunyddiau dysgu wedi'u lawrlwytho ar ôl colli cysylltiad â'r rhyngrwyd: Bydd hyn ond yn digwydd dan amodau penodol iawn, ond nodwyd y gallech gael trafferth wrth geisio cael mynediad i weithgaredd dysgu nad yw wedi'i lawrlwytho pan fyddwch all-lein. Datrysiad – caewch ac ailagorwch yr ap os na allwch adael y dudalen.

      Fideo sgrin lawn Android yn chwalu'r ap wrth ddefnyddio botwm yn ôl y ddyfais: Wrth ddefnyddio'r chwaraewr fideo ar Android, gall defnyddio botwm yn ôl y ddyfais er mwyn gadael y fideo mewn modd portread gau yr ap. Rydym yn ymchwilio i hyn ar hyn o bryd. Datrysiad – defnyddiwch y modd tirlun neu defnyddiwch ddewisiadau'r ap er mwyn gadael y fideo.

      Mae gadael delwedd sgrin lawn yn neidio i'r cynllun astudio: Wrth edrych ar ddelwedd sgrin lawn yn y deunyddiau dysgu, weithiau gall yr ap fynd â chi nôl i'r cynllun astudio yn lle'r dudalen sy'n cynnwys y ddelwedd. Datrysiad – os byddwch chi'n sylwi bod hyn yn digwydd yn aml, yna efallai y byddai'n syniad peidio â defnyddio'r opsiwn delwedd sgrin llawn. Rydym yn ymchwilio i achos y mater hwn; ond gallwch weld y ddelwedd o fewn y dudalen o hyd.

      Ni ellir dileu rhai lawrlwythiadau bach o'r adran ‘Manage Downloads’: Nid yw rhai lawrlwythiadau yn ymddangos yn yr adran 'manage downloads'. Mae datblygwyr yn Y Brifysgol Agored wedi cyflwyno'r ffordd o ddatrys hyn i Moodle, a fydd yn ei hadolygu ac yn ei chynnwys mewn diweddariad hwyrach i'r ap. Datrysiad – dileu data ar gyfer yr ap cyfan.

      Cysylltu â gwefannau modiwlau mewn porwr: Wrth ddilyn dolen o'r ap i wefan modiwl, dylai fynd â chi i'r union dudalen y mae'r ddolen yn cyfeirio ati. Weithiau, bydd y dolenni yn mynd i dudalen cwrs modiwl/tudalen chwilio yn lle hynny. Pan fydd hyn yn digwydd, mae'n aml pan fydd gofyn i'r defnyddiwr fewngofnodi i'r wefan am y tro cyntaf yn ystod y sesiwn honno. Datrysiad: Ewch yn ôl i'r ap a rhowch gynnig arall ar y ddolen; bydd yr un ddolen yn aml yn gweithio yr ail dro.

      Penawdau'n diflannu weithiau: Efallai y byddwch yn sylwi bod y ddewislen, neu adrannau yn y ddewislen (e.e. ‘Planner‘, ‘Tutorials’, ‘Forums’) yn diflannu. Mae ein datblygwyr wedi cyflwyno ffordd o ddatrys hyn, a dylai fod ar gael mewn diweddariad i'r ap yn y dyfodol. Datrysiad – gadewch y modiwl drwy fynd i'r dudalen 'My modules' ac yna ewch yn ôl i mewn i'r modiwl, neu caewch ac ailagorwch yr ap.

      Mae pennawd llywio'r modiwl yn fflachio wrth sgrolio drwy'r cynllun astudio: Rydym yn ymwybodol o broblem lle gall y penawdau yn eich modiwl fflachio mewn rhai amgylchiadau. Mae ein datblygwyr wedi cyflwyno ffordd o ddatrys hyn, a dylai fod ar gael mewn diweddariad i'r ap yn y dyfodol. Datrysiad – nid oes unrhyw ddatrysiadau hysbys ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod hyn yn digwydd yn llai aml wrth ddefnyddio sgrin maint llechen.

      Bygiau hygyrchedd hysbys yr ymchwilir iddynt

      Ap yn chwalu pan fydd dyfeisiau Apple/iOS yn defnyddio isdeitlau ar gyfer fideos: Os byddwch yn ceisio defnyddio isdeitlau wrth wylio fideo yn yr ap ar ddyfais Apple/iOS, bydd yn aml yn chwalu'r ap. Rydym yn ymwybodol o hyn ac rydym yn gweithio ar ateb. Fodd bynnag, oherwydd natur gymhleth y broblem, efallai na fyddwn yn dod o hyd i ateb yn y byrdymor. Datrysiad – agorwch y dudalen ym mhorwr eich dyfais symudol (gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio'r ddewislen ar frig y dudalen ar yr ochr dde yn rhan fwyaf o dudalennau'r ap) a gwyliwch y fideo gan ddefnyddio eich porwr gwe os oes angen isdeitlau arnoch.

      Methu â defnyddio eiconau cwblhau gyda darllenydd sgrin iOS: Rydym yn ymwybodol o broblem lle mae defnyddio VoiceOver ar ddyfais iOS/Apple yn golygu na allwch ryngweithio ag eiconau cwblhau y cynllun astudio. Rydym yn ymchwilio i'r broblem hon a dylai gael ei thrwsio yn fuan. Datrysiad – defnyddiwch y traciwr gweithgareddau ar wefan y modiwl gan ddefnyddio porwr gwe eich dyfais symudol.

      Nid yw iOS VoiceOver yn adnabod dolenni: Rydym yn ymwybodol o broblem os byddwch yn defnyddio VoiceOver ar ddyfais iOS/Apple gan nad yw bob amser yn gallu adnabod dolen yn yr ap (nid yw'n ymddangos bod hyn yn broblem ar ddyfeisiau Android). Rydym yn ymchwilio i hyn ar hyn o bryd. Datrysiad – defnyddiwch wefan y modiwl ym mhorwr gwe eich dyfais symudol os oes angen y swyddogaeth hon.

      Nid yw Android TalkBack yn darllen cynnwys negeseuon naid cyn opsiynau llywio: Wrth ddefnyddio Android TalkBack, os bydd neges naid yn ymddangos, bydd y ddyfais yn canolbwyntio ar yr elfen lywio (‘Go’) heb ddarllen y neges naid. Rydym yn ymchwilio i hyn ar hyn o bryd. Datrysiad – pan fydd neges naid yn ymddangos, ewch yn ôl i lawr y dudalen er mwyn darllen cynnwys y neges.

      Nid yw'r ap yn dilyn dewisiadau maint testun ar ddyfeisiau Apple: Nid yw'r ap yn dilyn opsiynau hygyrchedd Apple. Rydym wedi trafod hyn ag Apple, ond nid ydym yn gwybod beth yw'r amserlenni ar gyfer dod o hyd i ffordd o ddatrys y broblem ar hyn o bryd. Datrysiad – defnyddiwch y gosodiadau maint testun yn yr ap.