Llywio yn yr ap
Defnyddiwch yr ap gan ddefnyddio eich sgrin gyffwrdd a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Mae'r opsiynau llywio a'r dewislenni yn yr ap yn cynnwys:
- Y bar dewislen (gallai hwn ymddangos ar ochr dde eich sgrin, yn dibynnu ar y ddyfais). Mae'r bar hwn yn cynnwys:
- eicon ‘hafan’ sy'n mynd â chi i dudalen hafan yr ap (lle y gallwch ddewis y modiwl yr hoffech ei weld). Os byddwch yn y ddewislen gosodiadau, bydd yr eicon hafan yn mynd â chi i'r dudalen ddiwethaf a welwyd cyn mynd i mewn i osodiadau yr ap
- dewislen ‘Gosodiadau’ sy'n mynd â chi i ddewislen o opsiynau megis ‘Feedback’, ‘Synchronisation’ a ‘Help’.
- Penawdau yn eich Cynllun Astudio modiwl a fydd yn mynd â chi i'r adrannau canlynol:
- ‘Assessment’
- ‘Tutorials’
- ‘Forums’
- ‘Resources’
- ‘News’
- ‘Search’
- Dewislen ar frig eich cynllun astudio i:
- Agor gwefan y modiwl yn eich porwr rhagosodedig
- Rheoli lawrlwythiadau
- Yng nghynnwys eich modiwl, mae dewislen sy'n eich galluogi i wneud y canlynol:
- Agor y ddogfen yn eich porwr rhagosodedig
- Troi trawsgrifiadau a disgrifiadau ymlaen/i ffwrdd
- Adnewyddu'r dudalen
- Lawrlwytho'r ddogfen/gweithgaredd neu ddileu'r dogfen a lawrlwythwyd.